Gwirfoddoli i fod yn Ymddiriedolwr

Beth yw gwaith Ymddiriedolwyr?

Mae gan bron bob grwp cymunedol neu fudiad gwirfoddol bwyllgor rheoli neu fwrdd sy'n cynnwys ymddiriedolwyr.  Gwaith yr ymddiriedolwyr yw rheoli'r grwp; sicrhau ei fod yn cyrraedd ei nodau, yn dilyn ei reolau, yn cael ei redeg yn effeithiol ac yn darparu'r gweithgaredd neu'r gwasanaeth y'i sefydlwyd i'w gyflwyno.

Mae'r amser sy'n gysylltiedig â bod yn ymddiriedolwr yn amrywio yn ôl y grwp sydd dan sylw. Fel arfer, mae'n golygu mynd i gyfarfodydd rheolaidd o'r ymddiriedolwyr.  I grwpiau bach, mae'n rhain yn aml yn gyfarfodydd chwarterol. ond gall fod yn amlach gyda grwpiau a mudiadau mwy, yn enwedig y grwpiau hynny sy'n darparu gwasanaethau i'r gymuned neu sy'n cyflogi staff.

Fodd bynnag, mae bod yn ymddiriedolwr yn golygu mwy na mynd i gyfarfodydd. Mae angen sgiliau arbenigol megis Cadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd i greu bwrdd ymddiriedolwyr effeithiol, yn ogystal ag ymddiriedolwyr sydd â syniadau, ysbrydoliaeth a brwdfrydedd i sicrhau fod gwaith y grwp yn llwyddiant.

Gwirfoddolwyr yw ymddiriedolwyr, ac nid ydynt fel arfer yn derbyn tâl am eu gwaith fel ymddiriedolwyr, ond maent fel arfer yn derbyn ad-daliadau am unrhyw dreuliau a delir ganddynt.

Pam ddylwn i fod yn ymddiriedolwr?

Pam ddylwn i fod yn ymddiriedolwr?

Mae nifer o fanteision potensial yn gysylltiedig â bod yn ymddiriedolwr - yn eu mysg;

  • Gwneud cyfraniad positif i'ch cymuned
  • Helpu achos da sy'n bwysig i chi'n bersonol
  • Helpu sefydlu neu ddatblygu gwasanaeth neu gyfleusterau yn eich cymuned
  • Gwneud defnydd da o'ch sgiliau a phrofiad
  • Datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd
  • Gallu ychwanegu rhywbeth defnyddiol at eich CV
  • Rhwydweithio a chwrdd â phobl newydd

Sut fedra'i ddod yn ymddiriedolwr?

Mae llawer o grwpiau cymunedol a mudiadau gwrifoddol ym Mhowys sy'n chwilio am ymddiriedolwyr newydd, yn hysbusebu'r cyfleoedd ar wefan Gwirfoddoli Cymru neu drwy'r Biwro Gwirfoddolwyr Lleol; ceir manylion eich canolfan agosach yma. Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfau Gwyrifoddolwyr Powys.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwirfoddoli ym Mhowys cliciwch yma.

Fel arall, croeso i chi gysylltu â Desg Gymorth PAVO ar 0845 009 3288 neu ebostiwch ni os hoffech;

  • drafod yr hyn y mae bod yn ymddiriedolwr gyda grwp cymunedol neu fudiad gwirfoddol yn ei olygu
  • dderbyn mwy o wybodaeth am rôl a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr
  • fod yn ymddiriedolwr, ond yn methu dod o hyd i grwp addas

Ymunwch â PAVO

Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy

Hyfforddiant

Mae PAVO yn darparu cyrsiau hyfforddi ar holl agweddau rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau ... dysgu mwy

Mae Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys yn darparu cyrsiau hyfforddi ym maes cludiant a gwybodaeth ... dysgu mwy

Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys

Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy

Plant a Phobl Ifainc

Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy

Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy

Datblygu Cymnunedol

Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy

Click to search for community and voluntary organisations within Powys
nôl i ben y tudalen

Porwch PAVO