Mae'r gwefannau canlynol yn cynnwys ystod o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol i ymddiriedolwyr mudiadau cymunedol a gwirfoddol;
Y ffynhonell swyddogol ar gyfer pob agwedd ar ddeddf elusennau a chanllawiau ar gyfer elusennau cofrestredig. Mae'r wefan yn cynnwys holl gyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau i'w lawrlwytho, tudalen ddefnyddiol ar gwestiynnau cyffredin a llu o wybodaeth arall sy'n berthnasol.
Gwasanaeth gwybodaeth am ddim i fusnesau yng Nghymru. Yn cynnwys llu o gysylltiadau i daflenni ffeithiau defnyddiol ar faterion ym myd busnes megis treth, cyflogaeth a diogelu data.
Y ffynonell swyddogol ar gyfer gwybodaeth am sefydlu a chofrestru cwmni. Mae'r wefan yn cynnwys ystod defnyddiol o lyfrynnau cyngor y gellir eu lawrlwytho
Yn ddefnyddiol ar gwybodaeth ar faterion treth cyffredinol. Mae'r wefan yn cynnwys adran ddefnyddiol ar dreth, masnachu, a rhoddion cymorth i elusennau, gyda canllawiau a thaflenni ffeithiau y gellir eu lawrlwytho.
Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS)
Ffynhonell o wybodaeth a chyngor cynhwysfawr am ddeddfau cyflogaeth ac arferion da. Mae'r wefan yn cynnwys ystod o gyhoeddiadau y gellir eu lawrlwytho, tudalen ddefnyddiiol ar gwestiynnau cyffredin a llwyth o wybodaeth arall sy'n berthnasol.
Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB)
Am wybodaeth am y broses o wneud gwiriad o gofnod troseddol staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed.
Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio
Mae'r wefan hon yn cynnwys adran ddefnyddiol ar ddeddfau cyflogaeth i gyflogwyr a gweithwyr.
Yn darparu ystod gynhwysfawr o daflenni a thaflenni ffeithiau y gellir eu lawrlwytho am faterion yn ymwneud â phobl hyn, ar gyfer pobl hyn, eu teuluoedd a phobl sy'n gweithio gyda phobl hyn.
Comisiwn Cydraddoleb a Hawliau Dynol
Corff newydd fydd yn cyfuno gwaith presennol y Comisiwn Cydraddoleb Hiliol, Y Comisiwn Hawliau Anabledd a'r Comisiwn Cyfle Cyfartal o Hydref 2007.
Y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CRE)
Ffynhonell ddefnyddiol o wybodaeth ym maes deddfwriaeth mewn perthynas â chydraddoleb hiliol a hawliau gweithwyr, gyda gwybodaeth a chyngor ar arferion da i gyflogwyr a chyrff cyhoeddus.
Mudiad sy'n gweithio ym Mhowys er mwyn cefnogi pobl sydd ag anabledd neu nam corfforol neu synhwyrol, neu salwch tymor hir gyda materion ym maes tai, gwasanaethau gofal, iechyd, mynediad, cludiant, cyflogaeth ac addysg. Yn darparu hyfforddiant ar faterion ym myd anabledd a chydraddoldeb.
Y Comisiwn Hawliau Anabledd (DRC)
Ffynhonell ddefnyddiol ar wybodaeth ynghylch deddfwriaeth mewn perthynas a gwahaniaethu ar sail anabledd a hawliau cyflogaeth, gyda chyngor i gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau.
Y gymdeithas genedlaethol ar gyfer grwpiau anabledd sy'n gweithio i sicrhau hawliau, cydraddoldeb a dewis i holl bobl anabl Cymru.
Y Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal (EOC)
Ffynhonell ddefnyddiol ar gyfer gwybodaeth ar ddeddfwriaeth am wahniaethau ar sail rhyw a hawliau cyflogaeth, gyda chanllawiau ar arferion da.
Ffynhonell o wybodaeth ddefnyddiol am faterion yn ymwneud â phobl mewn oed, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail oedrau mewn perthynas â chyglogaeth.
Elusen sy'n darparu gwybodaeth a gwasanaethau er mwyn cefnogi elusennau gyda gweithgareddau ariannol a gweithgareddau codi arian.
Y corff hunanreoleiddiol ar arferion codi arian i Elusennau ym Mhrydain. Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am y cynllun a'r weithdrefn gwyno i'r cyhoedd.
Corff proffesiynol ar gyfer aelodau sy'n codi arian ym Mhrydain. Mae'r wefan yn cynnwys codau ymarfer da mewn perthynas â chodi arian ym Mhrydain yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfau elusennol a chodi arian.
National Association for Voluntary and Community Action (NAVCA)
Corff ymbarél i fudiadau sy'n rhan o isadeiladwaith y sector cymunedol a gwirfoddol yn Lloegr. Mae'r wefan yn cynnwys adran ddefnyddiol ar adnoddau gyda modelau polisïau, pecynnau arfau ac enghreifftiau o arferion da ar ystod o bynciau.
Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO)
Y corff ymbarél cenedlaethol i fudiadau gwirfoddol yn Lloegr. Mae'r wefan yn cynnwys rhestr gyflawn o gyhoeddiadau helaeth y Cyngor gyda'r gallu i archebu ar-lein.
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
Y corff ymbarél cenedlaethol i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Yn darparu ystod eang o wybodaeth a chefnogaeth gyffredinol i fudiadau cymunedol a gwirfoddol yng Nghymru.
Mae'r wefan hon yn cynnwys ystod gynhwysfawr o adnoddau gwybodaeth i gefnogi ymddiriedolwyr mudiadau gwirfoddol. Er iddo gael ei sefydlu ar gyfer mudiadau yn Lloegr, mae'r rhan fwyaf o'r adnoddau ar y wefan yr un mor berthnasol i fudiadau yng Nghymru.
Institute of Chartered Secretaries and Administrators (ISCA)
Mae'r wefan hon yn cynnwys nifer o adnoddau defnyddiol i fudiadau di-elw, gan gynnwys modelau o swydd ddisgrifiadau swyddogion, codau ymddygiad a pholisïau gwrthdaro buddiannau.
Adnodd sydd ar gael ar y rhyngrwyd yn unig, gyda nifer o daflenni gwybodaeth defnyddiol ar faterion cyffredinol ym maes llywodraethu, a dolenni wefannau eraill ac adnoddau ar-lein.
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
Ffynhonell swyddogol ar gyfer gwybodaeth ar faterion ym maes iechyd a diogelwch yn y gweithle a deddfwriaeth gysylltiol.
Gwefan gynhwysfawr sy'n darparu gwybodaeth am yr holl wasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu gweinyddu gan y llywodraeth. Yn cynnwys dolenni i holl adrannau'r llywodraeth ganolog, asiantaethau gweithredol, a chyrff cyhoeddus anadrannol.
Yn ddefnyddiol am wybodaeth fanwl ynghylch holl wasanaethau CSP. Hefyd yn darparu manylion cyswllt cynghorwyr etholdeig, manylion ymgynghoriadau cyhoeddus cyfredol a chynlluniau grant sy'n cael eu gweinyddu gan y cyngor.
Sy'n darparu'r holl wybodaeth a newyddion diweddaraf am Lywodraeth Cynulliad Cymru. Yn cynnwys adrannau defnyddiol sy'n rhoi gwybodaeth ar ymgynghoriadau cyhoeddus cyfredol ac arian grantiau.
Mae gwefan cylchgrawn 'Charities Management', a gyhoeddir chwe gwaith y flwyddyn, yn cynnwys erthyglau nodwedd gyda'r nod o gynorthwyo rheolwyr elusennau i redeg eu mudiadau mewn dull gwell.
Mae gwefan cylchgrawn 'Charity Times', a gyhoeddir wyth gwaith y flwyddyn yn cynnwys ystod o erthyglau a cholofnau ar faterion sy'n effeithio ar y trydydd sector, gan gynnwys rheoli, cyllid, codi arian, TG, adnoddau dynol a'r gyfraith.
Yn cyhoddi ystod eang o gyhoeddiadau arbenigol o ddiddordeb i fudiadau cymunedol a gwirfoddol. Gellir archebu ar-lein.
Mae gwefan a chylchgrawn 'Governance', yn gyhoeddiad penodol i ymddiriedolwyr elusennau, prif weithredwyr ac ysgrifenyddion cwmnïau. Mae'n cynnwys nifer o adnoddau llywodraethu y gellir eu lawlwytho am ddim, ynghyd â thudalen o swyddi ar gyfer mudiadau sy'n ceisio recriwtio ymddiriedolwyr.
London Voluntary Service Council
Mae'r cyngor yn cyhoeddi ystod bach o lawlyfrau a chyhoeddiadau arbenigol sydd o ddiddordeb i fudiadau cymunedol a gwirfoddol.
Mae gwefan cylchgrawn 'Third Sector', cylchgrawn wythnosol ar gyfer elusennau, mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol ym Mhrydain.
Rhan o gynllun Llywodraeth Prydain i gynyddu cyfleoedd dysgu ôl-16, gyda manylion pecynnau hyfforddi ar-lein (rhai yn rhad ac am ddim) sydd ar gael yn eich Canolfan learndirect Cymru lleol. Mae cyrsiau'n cynnwys ystod o bynciau defnyddiol ym maes busnes a sgiliau rheoli.
Mae'r wefan yn cynnig fforwm ar-lein i ymddiriedolwyr mudiadau ym Mhrydain yn ogystal â gwybodaeth i gynorthwyo gyda datblygu grwpiau rhwydwaith hunan-gymorth i ymddiriedolwyr.
Hon yw'r prif wefan ar gyfer manylion ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Ymddiriedolwyr. Mae'r wefan hefyd yn rhoi gwybodaeth am recriwtio a materion ym maes cyflogaeth.
Ymddiriedolwyr a Llywodraethu CGGC
Mae'r wefan hon yn ffynhonell gynhwysfawr o wybodaeth ac adnoddau ar ystod eang o faterion cyffredin. Mae hefyd yn cynnal Fforwm ar-lein i Ymddiriedolwyr.
Mae'r Bwrdd yn rhoi gwybodaeth am Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 a'r goblygiadau i fudiadau gwirfoddol. Mae hefyd yn rhoi cyngor defnyddiol ar bynciau megis llunio polisi Iaith Gymraeg a chomisiynu gwasanaethau cyfieithu. Hefyd yn cynnwys manylion y Llinell Gyswllt ar gyfer gwasanaeth cyfieithu am ddim i'r Gymraeg.
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy