Yn yr adran hon ceir hyd i wybodaeth ac adnoddau i'ch cynorthwyo gyda'ch gwaith fel ymddiriedolwr; i helpu datblygu eich sgiliau a gwybodaeth; ac i'ch cynorthwyo gyda rhedeg eich grwp cymunedol neu fudiad gwirfoddol.
Ystyr 'ymddiriedolwr' yw aelod o bwyllgor rheoli, pwyllgor gwaith neu fwrdd cyfarwyddwyr grwp cymunedol neu fudiad gwirfoddol. Yn aml mae ymddiriedolwyr yn defnyddio teitlau eraill megis: cyfarwyddwyr, aelodau'r bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau'r pwyllgor.
Trwy'r adran hon o'r wefan, gallwch edrych ar:
- Daflenni gwybodaeth am faterion cyffredinol i ymddiriedolwyr
- Adnoddau defnyddiol eraill i ymddiriedolwyr
- Gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau i ymddiriedolwyr sydd ar y gweill
- Gwybodaeth am Rwydwaith Ymddiriedolwyr Powys
- Dolenni i wefannau eraill sy'n rhoi gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i ymddiriedolwyr
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei angen arnoch, neu os oes gennych gwestiwn penodol yr hoffech ei ofyn, croeso i chi gysylltu â ni yma neu drwy ffonio 0845 009 3288.
Fel arall, gellir cysylltu â ni drwy'r post yn: PAVO, Marlow, Cilgant y De, Llandrindod, Powys LD1 5DH

Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy