Materion Cyffredinol ym maes Yswiriant

Mae'r math o bolisi yswiriant sydd ei angen ar grwpiau cymunedol neu fudiadau gwirfoddol yn dibynnu ar nifer o ffactorau;

  • Y gyfraith - Os ydych yn cyflogi staff, bydd angen yswiriant atebolrwydd cyflogwr neu os ydych yn defnyddio cerbyd, yna bydd angen yswirio'r cerbyd
  • Eich dogfen lywodraethu - weithiau bydd dogfennau llywodraethu grwpiau'n nodi y dylid trefnu mathau penodol o yswiriant
  • Gall gweithgareddau eich grwp hefyd olygu ei fod yn addas trefnu mathau eraill o yswiriant megis yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, polisi yswirio eiddo ac ati.

I gael gorolwg cyffredinol ar faterion yswiriant i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol, gweler taflen wybodaeth PAVO 2.11 Yswiriant.

Mae'r Comisiwn Elusennau'n rhoi arweiniad mwy manwl i elusennau yn y cyhoeddiad CC49 Elusennau ac Yswiriant. Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch:

  • Cyfrifoldebau cyfreithiol ymddiriedolwyr elusennau mewn perthynas ag yswiriant
  • Defnyddio hysbysiadau ymwadiad
  • Yswiriant indemnedd i Ymddiriedolwyr

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cyhoeddi taflen wybodaeth Deddf Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) 1969: Arweiniad i gyflogwyr.

i fyny

Yswiriant Indemnedd i Ymddiriedolwyr

Mae rhai grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol yn prynu Yswiriant Indemnedd i Ymddiriedolwyr er mwyn diogelu eu hymddiriedolwyr rhag mathau penodol o gyfrifoldebau personol.

Diben Yswiriant Indemnedd i Ymddiriedolwyr yw diogelu ymddiriedolwyr rhag cyfrifoldebau personol pe ddigwydd i achos cyfreithiol cael ei ddwyn yn eu herbyn oherwydd tor-ymddiriedaeth, tor-dyletswydd neu esgeulustod yn rhinwedd eu dyletswyddau fel ymddiriedolwyr.

Fodd bynnag, ni fydd Yswiriant Indemnedd i Ymddiriedolwyr yn diogelu ymddiriedolwyr yn erbyn;

  • Dirwyon sy'n deillio o achosion troseddol, neu gosbau sy'n deillio o weithred rheoli
  • Atebolrwydd sy'n deillio o amddiffyn achosion troseddol, lle cafwyd ymddiriedolwr yn euog o dwyll, anonestrwydd, neu gamreolaeth diofal
  • Atebolrwydd sy'n deillio o ymddygiad, roedd yr ymddiriedolwr yn ymwybydol, neu dylai fod wedi bod yn ymwybodol, oedd yn mynd yn erbyn buddiannau'r elusen

Am eglurhad mwy manwl o'r mater yma, gweler taflen wybodaeth PAVO 5.8 Yswiriant Indemnedd i Ymddiredolwyr.

Am fwy o wybodaeth ynghylch atebolrwydd personol ymddiriedolwyr, gweler taflen wybodaeth PAVO 5.7 Atebolrwydd Ymddiriedolwyr ac Aelodau Cyrff Llywodraethu

Mae newidiadau yn sgil y Ddeddf Elusennau 2006 yn golygu nad oes rhaid i elusennau bellach wneud cais i'r Comisiwn Elusennau am ganiatâd i brynu Yswiriant Indemnedd Ymddiriedolwyr oni bai bod cymal yn eu dogfen lywodraethu sy'n gwahardd prynu yswiriant o'r math. am fwy o wybodaeth, gweler CC49 Elusennau ac Yswiriant

i fyny

Trefnu Yswiriant

Nid yw PAVO yn gallu argymell unrhyw gwmni yswiriant penodol i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol.

Er hynny, mae nifer o adnoddau ar-lein ar gael gellir eu defnyddio i ddod o hyd i gwmni yswiriant addas:

  • Ar wefan Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydeinig gellir chwilio er mwyn adnabod broceriaid yswiriant sy'n arbenigo mewn trefnu yswiriant i elusennau
  • Mae gwefan Volunteering England ceir rhestr o nifer o gwmnïau sydd â phrofiad penodol o yswirio mudiadau gwirfoddolcompass Insurance Policy which is endorsed by the Wales Council for Voluntary Action, The Scottish Council for Voluntary Organisations and the London Voluntary Service Council

Ymunwch â PAVO

Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy

Hyfforddiant

Mae PAVO yn darparu cyrsiau hyfforddi ar holl agweddau rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau ... dysgu mwy

Mae Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys yn darparu cyrsiau hyfforddi ym maes cludiant a gwybodaeth ... dysgu mwy

Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys

Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy

Plant a Phobl Ifainc

Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy

Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy

Datblygu Cymnunedol

Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy

Click to search for community and voluntary organisations within Powys
nôl i ben y tudalen

Porwch PAVO