Rôl a Chyfrifoldebau Ymddiriedolwyr

Mae ar unrhyw un sy'n ymddiriedolwr ar grwp cymunedol neu fudiad gwirfoddol, gyfrifoldebau a dyletswyddau wrth gyflawni eu rôl fel ymddiriedolwr. Mae rhai o'r dyletswyddau hyn yn ofynion cyfreithiol, tra bo eraill yn arfer da neu'n gyfrifoldebau moesol.

Mae'n bwysig fod unrhyw un sydd eisoes yn ymddiriedolwr, neu sy'n ystyried bod yn ymddiriedolwr, yn ymwybodol o'i rôl a chyfrifoldebau.

Gweler taflen wybodaeth PAVO am orolwg cyffredinol o rolau a chyfrifoldebau ymddiriedolwr 5.2 Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Ymddiriedolwr.

Mae'r Comisiwn Elusennau'n darparu gwybodaeth fanol i ymddiriedolwyr elusennau yn y cyhoeddiad CC3 'Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: yr hyn sydd angen ei wybod'.

Mae cyhoeddiad y Governance Hub Safonau Galwedigadol Cenedlaethol i Ymddiriedolwyr ac Aelodau o Bwyllgorau Rheoli yn rhoi canllawiau arferion gorau cynhwysfawr ar sut i fod yn ymddiriedolwr effeithiol, tra bo'r Cod Llywodraethu Da yn darparu safonau cenedlaethol ar sut i redeg eich grwp cymunedol neu fudiad gwirfoddol mewn modd effeithiol.

Am wybodaeth gyffredinol ynghylch rolau ymddiriedolwyr gwahanol (Cadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd) gweler taflen wybodaeth PAVO 5.3 Strwythurau Corff Llywodraethu a Swyddogion Anrhydeddus.

Mae angen i bawb gael syniad clir ynghylch eu rôl fel ymddiriedolwr neu swyddog (Cadeirydd, Trysrodydd, Ysgrifennydd ac ati) os am chwarae rhan effeithiol o safbwynt llywodraethu grwp cymunedol neu fudiad gwirfoddol. Mae llawer o grwpiau a mudiadau felly, yn rhoi swydd-ddisgrifiadau i'w hymddiriedolwyr sy'n esbonio eu dyletswyddau a chyfrifoldebau.

Ar Wefan Ymddiriedolwyr a Llywodraethu CGGC mae adnodd defnyddiol o Gynhadledd 2007 Ymddiriedolwyr a Llywodraethu Cymru sy'n cynnwys rhai enghreifftiau o swydd-ddisgrifiadau generig i ymddiriedolwyr a swyddogion Swydd-ddisgrfiadau Model ac Ymarfer Dadansoddiad Rôl. Mae gwefan y Governance Hub hefyd yn rhoi enghraifft o ddisgrifiad rôl ymddiriedolwyr.

Dwy ffynhonnell arall am swydd-ddisgrifiadau ymddiriedolwyr a swyddogion yw Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol a'r Institute of Chartered secretaries and Administrators.

Ymunwch â PAVO

Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy

Hyfforddiant

Mae PAVO yn darparu cyrsiau hyfforddi ar holl agweddau rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau ... dysgu mwy

Mae Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys yn darparu cyrsiau hyfforddi ym maes cludiant a gwybodaeth ... dysgu mwy

Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys

Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy

Plant a Phobl Ifainc

Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy

Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy

Datblygu Cymnunedol

Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy

Click to search for community and voluntary organisations within Powys
nôl i ben y tudalen

Porwch PAVO