Am wybodaeth gyffredinol ynghylch sefydlu proses effeithiol i recriwtio ac ymsefydlu ymddiriedolwyr newydd, gweler taflen wybodaeth PAVO 5.4 Recriwtio, dewis ac ymsefydlu.
Mae Canolfan Llywodraethu'r DU yn cynhyrchu Good Practice in Trustee Recruitment Toolkit. Mae hwn yn adnodd cynhwysfawr iawn (sy'n cynnwys ffurflenni model, hysbysebion ac ati) i'ch helpu cynllunio a gweithredu ymgyrch recriwtio. Maent hefyd yn cynhyrchu arweiniad mwy arbenigol Starting on the Right Track - A Guide To Recruiting and Inducting a New Chair.
Os taw elusen ydych, mae cyhoeddiad CC30 y Comisiwn Elusennau - Dod o hyd i ymddiriedolwyr newydd - gwybodaeth hanfodol i elusennau - hefyd yn cynnwys canllawiau defnyddiol. Maent hefyd yn cyhoeddi adroddiad diddorol RS1 Trustee recruitment, Selection and Induction.
Er bod llawer o ymddiriedolwyr yn cael eu recriwtio'n aml drwy gysylltiadau personol, gall fod yn addas i hysbysebu eich cyfleoedd i ymddiriedolwyr ar lefel ehangach er mwyn denu pobl sydd â'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen ar eich grwp neu fudiad.
Un ffordd i recriwtio ymddiriedolwyr newydd o'ch cymuned leol yw drwy hysbysebu eich cyfleoedd drwy'r 12 Biwro Gwirfoddoli lleol ym Mhowys. Gwelir eu manylion cyswllt yma.
Mae nifer o wefannau ar gael hefyd lle gall grwpiau hysbysebu eu cyfleoedd i ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr. Y brif wefan yng Nghymru yw Gwirfoddoli yng Nghymru. Mae gwefannau Prydeinig eraill lle gellir hysbysebu cyfleoedd i ymddiriedolwyr (rhai o'r rhain yn wasanaethau recriwtio arbenigol fydd yn codi tâl am hysbysebu);Charity Job
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy