Cydnabyddir mai arfer dda yw sicrhau fod ymddiriedolwyr grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol yn derbyn digon o wybodaeth am y grwp neu'r mudiad ei hunan. Mae paratoi pecyn gwybodaeth neu ffeil i ymddiriedolwyr newydd yn ffordd syml ac effeithiol i wneud hyn.
Mae'r dogefnnau canlynol yn rhoi gwybodaeth sylfaenol ynghylch rôl ymddiriedolwyr, a gellir eu defnyddio fel rhan o becyn gwybodaeth pan fydd eich grwp neu fudiad yn recriwtio ymddiriedolwr newydd. Gall y rhain hefyd fod o ddiddordeb i'r bobl hynny sydd eisoes yn ymddiriedolwyr.
Er bod rhai o'r dogfennau hyn yn cynnwys gwybodaeth sy'n benodol i ymddiriedolwyr elusennau cofrestredig, mae llawer o'r wybodaeth yn berthnasol i bob ymddiriedolwr.
- Rhestr o daflenni gwybodaeth PAVO ar faterion ymddiriedolwyr a llywodraethu
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy