Fforwm Cludiant Cymunedol Powys

Mae pob cynllun Cludiant Cymunedol (CC) ym Mhowys yn aelod o Fforwm CC Powys. Fforwm yw'r grwp hwn, sy'n cwrdd bob chwarter, ac sy'n gyfrifol am lunio polisiau CC ym Mhowys. Fe'i sefydlwyd ym 1992 ac mae pob cynllun CC a chynrychiolydd ar y fforwm, sydd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr mudiadau gwirfoddol, y Cyngor Sir, a chyrff rhanbarthol statudol eraill. Mae'n derbyn cefnogaeth gan, ac yn cael ei ariannu'n rhannol gan, Gyngor Sir Powys.

 

Mae Adran CC PAVO yn gweithio gyda'r Fforwm i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth ar holl agweddau ar gludiant cymunedol.

Mae nodau'r Fforwm fel a ganlyn:-

  • Dod a mudiadau sy'n gysylltiedig a neu sydd a diddordeb mewn Cludiant Cymunedol ym Mhowys at ei gilydd.
  • Trwy ddull o weithio partneriaethol, datblygu darpariaeth well, ar lefel ranbarthol a lleol, a sicrhau fod cludiant cymunedol yn cael ei gydlynu'n well i bobl sydd ag anawsterau teithio oherwydd iechyd gwael, henaint neu anabledd.
  • Codi ymwybyddiaeth am faterion ym maes cludiant cymunedol, gan gynnwys cefnogaeth ariannol ar lefel leol, sirol a chenedlaethol.
  • Helpu datblygu a rhoi ar waith, arferion da mewn Cynlluniau Cludiant Cymunedol ym Mhowys.
  • Lobio  dros a gweithio gyda grwpiau eraill i ddatblygu system trafnidiaeth integredig i Bowys.

i fyny

Ymysg cyraeddiadau'r Fforwm ers ei sefydlu mae'r canlynol:-

  • Mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys,   parhau i dderbyn cefnogaeth ariannol er mwyn cyflogi Swyddog Datblygu Cludiant Cymunedol a swydd Swyddog Prosiect newydd.
  • Cynorthwyo gyda datblygu cynlluniau 'Dial-a-Ride' newydd.
  • Cynorthwyo gyda datblygu cynlluniau Cerdyn Tacsi.
  • Wedi cyfrannu at sefydlu Cymdeithas Cludiant Cymunedol i Gymru.
  • Cydlynu cais am gefnogaeth ariannol 3 blynedd i sefydlu Asiantaeth Hyfforddi ym maes Cludiant.
  • Cydlynu cais am gefnogaeth ariannol am 3 blynedd gan y Gronfa Loteri i ddarparu cefnogaeth ariannol barhaol i'r Fforwm a 7 o Gynlluniau Cerdyn Tacsi.
  • Cydlynu cais am gefnogaeth ariannol am 3 blynedd i Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ar gyfer y Fforwm CC a Swydd Rheolwr CC.
  • Cydlynu cais am gefnogaeth ariannol am 3 blynedd i Lywodraeth y Cynulliad i alluogi 15 o gynlluniau CC i gymryd rhan mewn cynllun peilot tocynnau teithio rhad. 

Am rhagor o fanylion cysylltwch:

 
Sarah Leyland-Jones

01597 824494

Cliciwch yma

 

 

 

Ymunwch â PAVO

Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy

Hyfforddiant

Mae PAVO yn darparu cyrsiau hyfforddi ar holl agweddau rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau ... dysgu mwy

Mae Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys yn darparu cyrsiau hyfforddi ym maes cludiant a gwybodaeth ... dysgu mwy

Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys

Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy

Plant a Phobl Ifainc

Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy

Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy

Datblygu Cymnunedol

Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy

Click to search for community and voluntary organisations within Powys
nôl i ben y tudalen

Porwch PAVO