Bwrdd Lleol Diogelu Plant

Mae Deddf Plant 2004 yn atgyfnerthu'r trefniadau ar gyfer diogelu a hyrwyddo lles plant. Mae'r rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i wneud trefniadau i hybu cydweithredu gyda'r nod o wella lles plant yn eu hardal hwy mewn perthynas â: iechyd corfforol a meddyliol, a lles emosiynol, eu diogelu rhag niwed ac esgeulustod, addysg, hyfforddiant a hamdden, eu cyfraniad i gymdeithas, lles cymdeithasol ac economaidd.  Mae pob asiantaeth sy'n bartner ac sy'n gweithio gyda phlant ym Mhowys â chynrcyhiolydd ar BLlDP Powys. Mae'n ddyletswydd ar bob partner i gyflawni eu cyfrifoldeb i wneud cyfraniad cyflawn ac effeithiolul i waith y Bwrdd.

Sefydlwyd Bwrdd Lleol Powys Diogelu Plant o dan adran 31 Deddf Mabwysiadau a Phlant 2004. Ei brif swyddogaethau yw:

  • Bod yn gyfrifol am bolisi cyffredinol a dablygu strategol
  • Meithrin perthynas o ffydd a dealltwriaeth
  • Codi ymwybyddiaeth ar draws asiantaethau ac o fewn y gymuned ehangach, gan gynnwys cymunedau ffydd a lleiafrifoedd ethnig.
  • Adnabod a gweithredu ar bryderon ym maes diogewlch a lles plant
  • Cynorthwyo'r plant hynny sydd wedi dioddef, neu sydd mewn risg parhaol o niwed sylweddol, er mwyn diogelu plant a hyrwyddo eu lles
  • Datblygu a chytuno ar bolisiau a gweithdrefnau lleol ar gyfer gwaith ymysg asiantaethau
  • Adolygu effeithiolrywdd y mesurau y mae pob partner o'r Bwrdd yn ei gyflawni
  • Sefydlu cysylltiadau clir i bartneriaethau eraill e.e. Partneriaeth Diogelwch Cymunedol, Partneriaeth Fframwaith Plant.

i fyny

[Translate to Cymraeg:]

Aelodau Craidd  
Heddlu Dyfed Powys Bwrdd Iechyd Lleol Powys
Gwasanaeth Prawf Dyfed Powys NSPCC
PAVO Y Fyddin
CAFCASS - Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd RSPCA
Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc  

Plant a Phobl Ifanc

 

Cliciwch yma i fynd yn ôl i'r dudalen Plant a Phobl Ifanc.

Ymunwch â PAVO

Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy

Hyfforddiant

Mae PAVO yn darparu cyrsiau hyfforddi ar holl agweddau rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau ... dysgu mwy

Mae Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys yn darparu cyrsiau hyfforddi ym maes cludiant a gwybodaeth ... dysgu mwy

Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys

Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy

Plant a Phobl Ifainc

Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy

Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy

Datblygu Cymnunedol

Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy

Click to search for community and voluntary organisations within Powys
nôl i ben y tudalen

Porwch PAVO