Estynnir gwahoddiad i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol ymuno â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, sy'n rhoi cefnogaeth i grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn y Sir. Byddwch yn ymuno â dros 600 o fudiadau eraill, ac mae'r buddion canlynol ar gael i bawb:
Cadw mewn cysylltiad, a chael mynediad i'r wybodaeth ddiweddaraf.
Byddwch yn derbyn llythyr E-briffio misol, sy'n cynnwys gwybodaeth gyfredol ar ariannu, hyfforddiant a digwyddiadau.
Derbyn gwahoddiadau i ystod eang o ddigwyddiadau a chyfarfodydd.
O'r Gynhadledd Flynyddol i sesiynau briffio ar bolisïau a chynlluniau newydd gan y llywodraeth, i ddigwyddiadau mwy lleol ar gyfleoedd ariannu a phynciau eraill. Gallwch hefyd cysylltu â 22 o rwydweithiau ar bynciau arbennig. Gall PAVO eich cysylltu gyda phobl ac yn enwedig gydag eraill yn yr un maes gwaith â chi ar lefel leol, trwy Bowys, trwy Gymru neu ar lefel ryngwladol.
Yn gallu mynegi eich barn a chael dweud eich dweud ar faterion pwysig.
Cyfle i fod yn rhan o ymarfer ymgynghori a chael lleisio eich barn. Gallwn drosglwyddo eich sylwadau i bartneriaid allweddol ym Mhowys, gan gynnwys y Cyngor Sir a'r Bwrdd Iechyd Lleol, ar yn genedlaethol trwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar yr hyn sydd ar gael ar lefel leol a chenedlaethol.
Ceir hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf ar wefan PAVO ac mae hefyd yn rhan o'r llythyr briffio misol (am ddim) i aelodau. Anfonir gwybodaeth am hyfforddiant hefyd drwy ebost i aelodau a rhwydweithiau.
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy