Mae PAVO wedi ymrwymo i wrthwynebu gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail hil, lliw, crefydd, cenedl, oedran, dosbarth, anabledd, statws priodasol, tueddfryd rhywiol, iechyd corfforol a meddyliol, hanes iechyd corfforol/meddyliol, neu am unrhyw reswm arall. Mae PAVO wedi ymrwymo i gymryd camau positif tuag at hyrwyddo a chynnal tegwch ymysg y rhai sy'n rhannu amgylchfyd gwaith neu sy'n derbyn gwasanaeth. Mae PAVO yn ceisio hyrwyddo'r polisi hwn i unrhyw gorff y mae'n gweithio gydag ef.
Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda holl gymunedau Powys, gan sicrhau fod ein holl wasanaethau ar gael i, ac yn cael eu teilwra i fodloni anghenion amrywiol holl gymunedau Powys. Byddwn yn hyrwyddo amrywiaeth ac yn brwydro yn erbyn anoddefgarwch trwy ein gwaith gyda'n holl bartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol cymunedol, annibynnol a phreifat, ar lefel leol a rhanbarthol; gweithredu'n bositif er mwyn atal aflonyddu ac erledigaeth gweithwyr; a sicrhau monitro rheolaidd ac effeithiol ac adolygu gweithredu'r polisi hwn fel ein bod yn gwneud gwahaniaeth, ac yn gwella'n barhaol ein harferion cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Gellir lawrlwythno copi o Foxit Reader neu Acrobat Reader drwy glicio ar y botwm perthnasol. Byddem yn argymell defnyddio Foxit Reader i bobl nad ydynt yn defnyddio band-eang, oherwydd mae maint y ffeil yn llai.
Os ydych yn cael problemau wrth lawrlwytho, neu os hoffech weld copi caled, cysylltwch â ni.
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy