Asiantaeth annibynnol yw Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) sy'n darparu cymorth a chyngor i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i'w galluogi i weithio mewn dull mwy effeithiol. Trwy weithio mewn partneriaeth gydag eraill, a thrwy ymateb mewn dull positif a chreadigol, ein nod yw atgyfnerthu ac ymbweru cymunedau ar hyd a lled y sir.
- Cefnogi mudiadau gwirfoddol ac annog arfer da.
- Cefnogi a hyrwyddo gwirfoddoli.
- Annog cydweithredu a chydweithio ymysg mudiadau gwirfoddol.
- Annog partneriaeth rhwng y sector gwirfoddol ac asiantaethau statudol.
- Datblygu a chefnogi mentrau newydd er mwyn diwallu anghenion sydd heb eu diwallu.
- Ymbweru cymunedau lleol trwy annog cyfranogaeth mewn datblygu.
- Adnabod a chynrychioli pryderon y sector gwirfoddol.
- Gwella gwasanaethau cyfryngol.
Mae PAVO yn gweithio gyda chymunedau yn eu holl amrywiaeth, ac mewn perthynas a'r ystod lawn o anghenion cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd.
Mae'n meddu ar arbenigedd penodol mewn perthynas a'r sector gwirfoddol, ac yn gwasanaethu anghenion y sector hwn. Cred fod y gwaith yma'n cymryd ei werth a phwysigrwydd fel rhan o feithrin cymdeithas sifil - rhan hanfodol o unrhyw gymdeithas iach.
Wrth weithio tuag at y nod ehangach hwn, mae PAVO yn ceisio annog cyfranogaeth mewn materion cymunedol gan bob aelod o'r gymuned honno, boed yn ddiffiniedig gan ardal ddaearyddol neu ddiddordeb. Mae'n cydnabod fod angen cymorth, cyngor, hyfforddiant a strwythurau cyfundrefnol cryfach yn aml ar bobl, er mwyn chwarae rhan lawn yn y cymunedau lle maent yn byw neu lle mae eu diddordeb.
Ym marn PAVO, mae'r gwaith o feithrin ac atgyfnerthu cymdeithas sifil yn ddull i roi hawliau i'r rhai hynny sydd yn aml iawn yn cael eu heithrio neu eu hymylu am ba bynnag reswm, ac felly yn waith o blaid cyfiawnder cymdeithasol.
Wrth gydnabod ystod gyflawn anghenion cymunedau, mae gan PAVO ddiddordeb greddfol mewn gweithio mewn partneriaeth. Cred y gall gwaith partneriaeth da arwain at ddulliau cynaliadwy, sy'n seiliedig yn y gymuned, ac sy'n wirioneddol gyfranogol, o ddiwallu anghenion cymunedau. Bwriad PAVO yw ceisio chwalu'r rhwystrau sy'n cael eu cynnal yn artiffisial rhwng sectorau sy'n milwrio yn erbyn y deilliannau gorau i gymunedau. Mae PAVO yn ceisio cynorthwyo ac atgyfnerthu cymdeithas sifil fel un o'i nodau allweddol, a dyma fydd ffocws ei waith gydag unigolion, grwpiau, mudiadau a chymunedau.
Parch
Mae PAVO wedi ymrwymo i hyrwyddo parch, gonestrwydd ac unplygrwydd wrth ddelio gyda'i aelodau, staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr, yn ogystal a gyda mudiadau sy'n bartneriaid ac aelodau'r cyhoedd.
Cydraddoldeb
Mae PAVO wedi ymrwymo i hyrwyddo parch, gonestrwydd ac unplygrwydd wrth ddelio gyda'i aelodau, staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr, yn ogystal a gyda mudiadau sy'n bartneriaid ac aelodau'r cyhoedd.
Ymbweru
Mae PAVO wedi ymrwymo i gyfranogaeth, cyfraniad a datblygiad ei holl aelodau, staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr.
Cyfrinachedd
Mae PAVO yn parchu egwyddor cyfrinachedd, ac mae'r Bwrdd wedi mabwysiadau polisi sy'n rheoli materion cyfrinachol. Ni fydd unrhyw wybodaeth ar gael i unrhyw ffynhonnell allanol heb ganiatad ymlaen llaw, oni fydd y gyfraith neu benderfyniad gan y Bwrdd yn gofyn am ddatgelu'r wybodaeth.
Ansawdd
Mae PAVO wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o safon uchel, ac i gynnwys newid trwy welliant a datblygiad parhaus.
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy