Diben yr adran hon yw gwneud y gorau o arian a roddir i'ch mudiad chi, naill ai gan unigolyn neu fusnes.

Rhoddion Cymorth

 

Gostyngiad yn y dreth ar arian a roddir i elusennau yn y DU yw 'Rhoddion Cymorth'. Gall elusen hawlio 28% o bob £1 a roddir iddynt gan drethdalwr.


Er mwyn hawlio Rhodd Cymorth, mae angen dilyn y camau syml canlynol:

Cofrestru gyda Cyllid a Thollau ei Mawrhydi/Elusennau (Cyllid y Wlad ers talwm) er mwyn hawlio Rhodd Cymorth.

 

Llunio datganiad Rhodd Cymorth, i bobl sy'n rhoi i chi ddatgan eu bod yn talu treth, ac yn rhoi caniatâd i chi hawlio Rhodd Cymorth ar eu rhodd hwy. Gweler copi o ffurflen fodel yma.

 

Hawlio'r arian! Hawlio 28.2% o gyfanswm y rhoddion sy'n gymwys gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi. Mae ffurflenni ar gael yma.

 

Llunio Cais i Gael Partner Corfforaethol

Mae cwmnïau corfforaethol yn derbyn parterniaid elusennol newydd a diddordeb yn amlach y dyddiau hyn, ond nid yn unig yr elusennau mwyaf sy'n elwa o gael 6 neu hyd yn oed 9 o bartneriaethau corfforaethol. Mae elusennau bach hefyd yn manteisio ar y cyfle.

Felly, sut bydd elusennau bach yn cychwyn ar hyn?

Dyma bump syniad i wella'ch rhagolygon.

Paru ceisiadau

Byddwch yn sicr mai chi yw'r elusen iawn i'r cwmni y gwneir y cais iddo. Ceir hyd i wybodaeth gefndir yn The Guide to UK Company Giving, a gyhoeddir gan y Directory of Social Change, (gellir ei brynu yma). Ymysg y manylion mae disgrifiadau o'r hyn mae cwmnïau'n fodlon ariannu, a'r mudiadau a roddwyd iddynt yn y gorffennol.

Bydd angen edrych ar feini prawf briffio'r cwmni i weld pa fath o elusen mae'n chwilio amdani.

Cyflwyno'ch cais

Mae llawer o gwmnïau mawr am greu parterniaeth gydag elusennau sy'n gweithio ym mhob un o'r pedwar rhan o'r DU, neu efallai y bydd rhai yn mynnu fod partneriaid elusennol yn delio gydag ochr weinyddol ymgyrchoedd. Byddwch yn sicr y gall eich elusen ddiwallu'r gofynion hyn. Hefyd cofiwch eu bod nhw am symbylu eu rhanddeiliaid - staff, cwsmeriaid ac ati, felly mae angen ystyried sut y gall eich elusen eu cynorthwyo i wneud hynny.

Defnyddio'r iaith gywir

Mae'r sector gwirfoddol yn broffesiynol, ond os byddwn ond yn trafod ein gwaith yn ei hanfod, mae 'na risg y byddwn yn disgrifio ein hunain mewn iaith broffesiynol, sydd llawn jargon sydd yn y pen draw yn anghyrraeddadwy. Un ffordd dda i ddileu jargon yw gofyn i rywun o'r tu allan (sy'n ennyn eich ffydd ynddo/i) i edrych dros eich disgrifiad ysgrifenedig o'ch elusen a'i gwaith. Os nad ydy o/hi'n gallu deall rhywbeth, mae'n debyg na fydd eich dewis gwmni yn deall ychwaith.

Defnydd llwyddiannus

Mae cwmnïau eisiau gwybod ble fydd eu harian yn cael ei wario, felly dwedwch wrthynt gan ddefnyddio ystadegau syml, yr hyn y gall eich mudiad gyflawni gyda'r arian ychwanegol.

Peidiwch â chymryd mwy o waith gweinyddol

Mae trefniadau cwmnïau am gasglu arian yn fwy effeithlon na threfniadau eraill, yn enwedig os bydd arian yn cael ei godi ar hyd a lled y wlad o staff yn codi arian neu flychau casglu mewn siopau, felly mae'n werth bod yn glir ynghylch yr hyn y gall eich mudiad ei drefnu yn fuan yn y broses. Gall ymgymryd â gormod o gyfrifoldeb am gasglu arian llyncu elw partneriaeth. Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau mawr gyfrif banc arbennig, yn enwedig os maent yn bwriadu rhoi arian cyfatebol. Ond nid yw rhai arwerthwyr yn hoffi cael gweithwyr yn gwagio blychau neu'n mynd ag arian parod i'r banc, ac mae rhai yn mynnu bod elusennau'n casglu'r arian eu hunain o'r canghennau, sydd yn faich amlwg. Y ffordd fwyaf effeithiol yw i'r cwmni sefydlu cyfrif banc dynodedig a chynnwys cyflenwad o slipiau talu mewn gyda'r codau priodol mewn pecynnau codi arian i'r canghennau unigol.

 

 

Ymunwch â PAVO

Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy

Hyfforddiant

Mae PAVO yn darparu cyrsiau hyfforddi ar holl agweddau rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau ... dysgu mwy

Mae Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys yn darparu cyrsiau hyfforddi ym maes cludiant a gwybodaeth ... dysgu mwy

Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys

Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy

Plant a Phobl Ifainc

Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy

Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy

Datblygu Cymnunedol

Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy

Click to search for community and voluntary organisations within Powys
nôl i ben y tudalen

Porwch PAVO