Pam mae ceisiadau'n methu

Cymhwysedd - Derbyniodd cyllidwyr megis y Gronfa Gymunedol ceisiadau gan fudiadau ac unigolion nad oedd yn bosibl eu hariannu o fewn eu rheolau eu hunain.  Mae ceisadau fel hyn yn wastraff amser i bawb.

Meini Prawf Cyllidwyr - Mae llawer o geisiadau'n syrthio tu allan i feini prawf y cyllidwyr eu hunain, (e.e. nod Ymddiriedolaeth Plant mewn Angen y BBC yw bod o fudd i bobl ifanc difreintiedig dan 18 oed, ond mae'n dal i dderbyn llawer o geisiadau nad ydynt yn dangos sut mae'r grwp targed yn ddifreintiedig).

Ceisiadau o fudd i Fudiadau, nid pobl - Mae cais i gadw'ch grwp i fynd (neu hyd yn oed i'ch cadw chi mewn gwaith) yn llai deniadol i gyllidwr na chais i ddarparu gwasanaeth mawr ei angen. Felly hefyd, mae datganiad fel 'mae angen cyfrifiadur arnom' yn cael llai o effaith na datganiad megis 'gyda chyfrifiadur, gallwn gadw cofnodion yn fwy effeithlon, gan ryddhau amser i dreulio gyda defnyddwyr ein gwasanaethau'.

Cynllunio Prosiectau - Mae angen i gais am gyfrifiadur neu gerbyn ddangos sut y byddai'n cael gadw, ei yswirio a'i ddefnyddio, a gan bwy. Ydy'r grwp wedi llwyr ystyried yr holl oblygiadau o gael yr offer/swydd/adeilad newydd yma?

Costau - Ydy'r ffigurau'n realistig - digon i dalu am y gwaith dan sylw? Ydyn nhw'n werth yr arian? Ydy'r grwp wedi trin symiau cyffelyb o'r blaen?

Amserlenni - Ychydig iawn o gyllidwyr sy'n rhoi grantiau ar ôl i'r gwaith ddigwydd - h.y. ar ôl diwedd y prosiect. Dylid cofio y gall cymryd misoedd i ystyried eich cais, felly os ydych am redeg cynllun chwarae yn ystod gwyliau'r haf, peidiwch â gadael gwneud cais tan fis Mehefin (hyd yn oed os oes gennych yr arian yn y banc i 'fenthyg' i'r cynllun chwarae).

Cyfraniad - Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi gwrthod rhai ceisiadau am nad oeddent i'w gweld yn cynnwys buddiolwyr y prosiectau na phobl leol.

Llenwi ffurflenni - Dylid ateb pob cwesitwn ar y ffurflen gais (oni bai fod y ffurflen yn nodi yn wahanol, nid yn unig mewn dogfennau atodol eraill, sy'n golygu fod cyllidwyr yn gorfod chwilio am yr wybodaeth.

(E.e. os maen nhw'n gofyn am fanylion o'ch cyfrifon ar y ffurflen, dylid copïo'r manylion i'r ffurflen - hyd yn oed os maent yn gofyn i chi amgau'ch cyfrifon llawn).

Arian Cyfatebol - Os oes angen arian cyfatebol, dylid sicrhau hyn cyn y caiff grant ei ryddhau.

Cyllid hir-dymor - I brosiectau cyfalaf mawr, bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut maent yn bwriadu codi'r arian am gostau rhedeg a chynnal hir-dymor.

Darparwyd yr wybodaeth uchod gan Fit 4 Funding.

 

Ymunwch â PAVO

Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy

Hyfforddiant

Mae PAVO yn darparu cyrsiau hyfforddi ar holl agweddau rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau ... dysgu mwy

Mae Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys yn darparu cyrsiau hyfforddi ym maes cludiant a gwybodaeth ... dysgu mwy

Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys

Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy

Plant a Phobl Ifainc

Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy

Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy

Datblygu Cymnunedol

Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy

Click to search for community and voluntary organisations within Powys
nôl i ben y tudalen

Porwch PAVO