Gall y busnes o godi arian digalonni rhywun sy'n newydd iddo. Fodd bynnag, dylid ystyried codi arian fel busnes i'r mudiad cyfan, a ni ddylai syrthio ar ysgwyddau unigolyn yn unig. Trwy rannu gwaith penodol ymysg is-grwpiau, gelli rhannu'r baich drwy'r mudiad cyfan.
Os bydd eich mudiad yn penderfynu gwneud cais am gyllid, mae'n bur debyg y bydd angen i chi lunio cynnig sy'n disgrifio'ch prosiect. Dylai cynnig am gyllid:
- Ddisgrifio pwy ydych chi.
- Amlinellu'n glir y broblem yr ydych yn myn di'r afael â hi, a rhoi tystiolaeth (mae hyn yn fwyfwy pwysig)
- Esbonio'r hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud gyda'r arian
- Esbonio sut y bydd hynny'n helpu'r broblem / beth fydd yn newid
- Cynnwys gwybodaeth am eich costau
Bydd angen gallu crynhoi eich cynnig ar ddwy ochr o babur A4 oni bai ei fod yn brosiect mawr a chymleth. Hyn wedyn fydd sail unrhyw geisiadau a wneir gennych.
Wrth wneud cais:
- Gofalwch fod eich cais yn diwallu meini prawf cyllido'r ymddiriedolaeth
- Cofiwch ddarparu manylion llawn am yr hyn yr hoffech ei wneud a gofalu eich bod yn cosio'r prosiect yn gyflawn, gan gynnwys cyfran priodol o'r gorbenion. Os bydd yr ymddiriedolaeth yn rhoi meini prawf ar yr hyn y gellir ei hawlio, dylid dilyn y rhain yn ofalus
- Peidiwch â phoeni ymddiriedolaethau i weld sut mae'n cais yn mynd, oherwydd gall hyn amharu ar eich cais
- Ceisiwch fagu perthynas gydag ymddiriedolaeth. Os byddwch yn derbyn cyllid, dylid ysgrifennu atynt cyn gynted â phosibl i ddiolch iddynt, a'u gwahodd i weld y gwaith a arianwyd ganddynt. Mae ymddiriedolwyr yn cofio'r mudiadau sy'n cadw mewn cysylltiad gyda nhw pan nad ydynt yn gofyn am rywbeth.
I weld y taflenni gwybodaeth ar Gyllido, cliciwch yma.
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy