Cronfa Cymorth Galluogi Cymunedau - Powys

 

Prif bwrpas y gronfa hon yw cynorthwyo datblygu cymdeithasol a chymunedol. Gall grwpiau a mudiadau gwirfoddol sy'n gallu dangos eu bod nhw'n gyfansoddedig yn iawn, wneud cais am naill ai grantiau 'Cyfalaf' neu 'Refeniw'.

 

Er mwyn bod mor hyblyg â phosibl, nid oes gan Gyngor Sir Powys restr gyfarwyddol o'r mathau o brosiectau fydd yn denu cefnogaeth ariannol, oherwydd eu gobaith yw ceisio annog creadigrwydd, newydd-deb a datblygiad.

 

Mae Grantiau'r Gronfa Cymorth Galluogi Cymunedau yn amrywio oherwydd y math o brosiect a ffynonellau ariannu eraill. Fel arfer, byddai uchafswm grant o £15,000 yn cael ei roi i brosiectau neu weithgareddau gan y Sector Gwirfoddol.

 

Os hoffech wneud cais, mae'r Cyngor yn argymell y dylech gysylltu â'r Swyddog Grantiau Cymunedol i drafod eich prosiect yn fras cyn llenwi ffurflen gais.

 

Am fwy o wybodaeth a manylion cyswllt, ewch at wefan Cyngor Sir Powys.

 

 

Cronfa Deddfau Eglwysi Cymru

Mae'r gronfa hon yn rhoi grantiau dan dri phrif bennawd;

Grwpiau a Mudiadau Cymunedol

Grwpiau a mudiadau cymunedol heblaw am gostau cyflogau a chostau eraill sy'n gysylltiedig â chyflogaeth. Mae'n rhaid i fudiadau fod naill ai wedi'i lleoli ym Mhowys, neu os taw mudiad cenedlaethol neu ranbarthol yw, mae angen gallu dangos y bydd yr arian y gwneir cais amdano yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectsy'n benodol i Bowys.

 

Yr uchafswm grant a roddir fydd 15% hyd at uchafswm o £3,000 o'r costau amcangyfrifedig cyfanswm sy'n gymwys.

 

Eglwysi a Chapeli

Mae Eglwysi a Chapeli wedi derbyn grantiau ers nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, pwrpas hyn yw cydnabod eu pwysigrwydd fel adeiladau hanesyddol neu fel adeilad pwysig yn yr amgylchfyd lleol, yn hytrach na fel cyfleusterau crefyddol neu enwadol. Yn bennaf, rhoddi grantiau i atgyweirio neu adnewyddu tu allan i'r adeilad. Ni roddir grantiau ar gyfer atgyweirio tu fewn i'r adeilad.

 

Ni roddir grantiau am fwy na 10% hyd at uchafswm o £2,000 o'r costau amcangyfrifiedig cyfanswm sy'n gymwys.

 

Unigolion

Unigolion 25 oed a thanno ac sy'n ceisio rhagori mewn meysydd megis chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli.

 

Fel arfer, ni roddir grantiau hyd at ganran penodol, ond fel arfer maent ar raddfa o dua 10% - lleiafswm grant o £50, uchafswm grant o £500.

 

Am fwy o wybodaeth, a manylion cyswllt, ewch at Wefan Cyngor Sir Powys.

Ymunwch â PAVO

Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy

Hyfforddiant

Mae PAVO yn darparu cyrsiau hyfforddi ar holl agweddau rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau ... dysgu mwy

Mae Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys yn darparu cyrsiau hyfforddi ym maes cludiant a gwybodaeth ... dysgu mwy

Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys

Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy

Plant a Phobl Ifainc

Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy

Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy

Datblygu Cymnunedol

Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy

Click to search for community and voluntary organisations within Powys
nôl i ben y tudalen

Porwch PAVO