Y Loteri Fawr

Rhaglen Pawb a'i Le - estynnwyd y dyddiad cau ar gyfer ffurflenni amlinellu cais hyd at Hydref 2009. 

Bydd y Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn tynnu allan o raglen Arian i Bawb Cymru ddiwedd mis Mawrth 2009

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn cynnig amrediad o grantiau i fudiadau:

 

i fyny

Arian i Bawb

Cynllun grantiau i gynorthwyo grwpiau bach yw Arian i Bawb Cymru. Mae'r Gronfa Loteri Fawr a Chronfa Treftadaeth y Loteri yn ei gefnogi. Nod y rhaglen hon yw ariannu prosiectau sy'n cynnwys pobl yn eu cymuned leol, a dod â nhw at ei gilydd i gymryd rhan mewn a mwynhau ystod eang o weithgareddau treftadaeth, elusennol, iechyd, addysgiadol, amgylcheddol a gweithgareddau cymunedol eraill.

 

Lleiafswm grant - £500      Mwyafswm grant - £5000

 

Ar agor i geisiadau ers 7fed Mehefin 1999.

 

Am fwy o wybodaeth ewch at wefan y Gronfa Loteri Fawr

 

i fyny

Pawb a'i Le

Nod Pawb a'i Le yw dod a phobl ynghyd i wneud eu cymunedau yn gryfach ac i wella eu hamgylcheddau gwledig a threfol. Bydd y rhaglen yma yn cefnogi pobl i gydweithio i wneud eu cymunedau yn llefydd gwell i fyw. Mae cyfanswm o £66 miliwn ar gael.

 

Lleiafswm grant - £5001      Mwyafswm grant - £1 miliwn

 

Ar agor i geisiadau ers 30ain Tachwedd 2005.
Am fwy o wybodaeth ewch at wefan y Gronfa Loteri Fawr

 

i fyny

Cronfa Pobl Ifanc: Dyma dy Gyfle

Bydd Dyma dy Gyfle yn dosbarthu £1 miliwn yng Nghymru dros y dair blynedd nesaf i brosiectau, gweithgareddau ac offer a fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc rhwng 10 - 19 oed. Bydd y rhaglen yn gweithredu ledled Cymru ac mae'r Gronfa Loteri Fawr yn croesawu ceisiadau o bob sector o'r gymuned. Dim ond grwpiau sy'n gweithio â phobl ifanc all ymgeisio.

Lleiafswm grant - £500      Mwyafswm grant - £5000

 

Ar agor i geisiadau ers 3ydd Ionawr 2005.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611700 neu ewch at eu gwefan.

 

i fyny

Rhaglen Ymchwil: ar agor i geisiadau erbyn diwedd 2007

Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn rhoi hyd at £25 miliwn yn y DU yn ystod 2007-2009 i ariannu grantiau ymchwil cymdeithasol a meddygol yn y DU. Nod y Rhaglen Ymchwil fydd dylanwadu ar bolisïau ac arferion lleol a chenedlaethol trwy ariannu'r Trydydd Sector i gynhyrchu a dosbarthu tystiolaeth, a bydd yn anelu at helpu datblygu gwasanaethau ac ymyriadau gwell i fuddolion. Dim ond mudiadau o'r sector gwirfoddol a chymunedol fydd yn gymwys i wneud cais am arian.

 

Momenta fydd yn cyflwnyo'r rhaglen hon ar ran y Gronfa Loteri Fawr. Mae Momenta yn gweithio i'r sector cyhoeddus er mwyn troi polisi yn arfer trwy gynnig ystod o wasanaethau rheoli, gan gynnwys rheoli ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth, arfer gorau, rheoli cronfeydd a rhaglen newid ymddygiad.

 

Am fwy o wybodaeth, ewch at wefan y Gronfa Loteri Fawr.

Ymunwch â PAVO

Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy

Hyfforddiant

Mae PAVO yn darparu cyrsiau hyfforddi ar holl agweddau rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau ... dysgu mwy

Mae Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys yn darparu cyrsiau hyfforddi ym maes cludiant a gwybodaeth ... dysgu mwy

Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys

Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy

Plant a Phobl Ifainc

Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy

Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy

Datblygu Cymnunedol

Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy

Click to search for community and voluntary organisations within Powys
nôl i ben y tudalen

Porwch PAVO