Mae PAVO yn cynnig ystod cynhwysfawr o gymorth i grwpiau sy'n chwilio am arian. Mae'r cymorth yn amrywio o daflenni gwybodaeth (sy'n cynnwys sut i lunio cais, cymynroddion, rhoddion a cheisio nawdd) i wirio ceisiadau cyn eu cyflwyno, er mwyn helpu llunio strategaeth i'ch cynorthwyo i ddatblygu dulliau eraill o greu incwm. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau amrywiol drwy'r sir i gynnig cymorth i grwpiau, megis ffeiriau arian, cymorthfeydd o sesiynau unigol i gwblhau ffurflenni cais.

Gallwch gael y newyddion diweddaraf ar ariannu drwy ddilyn blog Newyddion Ariannu PAVO.
Ewch at: http://pavofundingnews.blogspot.com
Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i ariannu'ch mudiad chi
Taflenni gwybodaeth:
Casgliad cynhwysfawr o daflenni gwybodaeth sy'n delio gyda llawer o agweddau ar ariannu, gan gynnwys ffynnonellau ariannu, rheoli arian, datblygu strategaeth ariannu, a datblygu incwm o roddion.
Newyddion Ariannu:
Yma ceir y newyddion diweddaraf ynghylch ariannu, gan gynnwys cynlluniau grant newydd, llwyddiannau ymysg grwpiau ym Mhowys, dyddiadau cau sydd ar y gorwel, a rhifynnau o Newyddion Ariannu WCVA o'r gorffennol.
Cynlluniau Grant PAVO:
Cyfleoedd ariannu sy'n cael eu geinyddu gan PAVO.
Cyfarfodydd a Digwyddiadau:
Yma ceir y diweddaraf ynghylch digwyddiadau a chyfarfodydd sydd ar y gweill sy'n ymwneud ag ariannu.
Hyfforddiant:
Yn yr adran hon, ceir manylion ynghylch sesiynau hyfforddi sydd ar y gweill ynghylch agweddau amrywiol ar ariannu, a gyflwynir an PAVO a darparwyr hyfforddiant eraill.
Adnoddau:
Yma ceir nifer o daflenni gwybodaeth a thaflenni ffeithio i'ch helpu gyda cheisiadau. Maent yn cynnwys ffeithiau ac ystadegau i helpu atgyfnerthu'ch achos am gyllid.
Dolenni defnyddiol:
Ffynnonellau gwybodaeth eraill i'ch cynorthwyo gyda'ch cais am gyllid.
Gellir lawrlwythno copi o Foxit Reader neu Acrobat Reader drwy glicio ar y botwm perthnasol. Byddem yn argymell defnyddio Foxit Reader i bobl nad ydynt yn defnyddio band-eang, oherwydd mae maint y ffeil yn llai.
Os ydych yn cael problemau wrth lawrlwytho, neu os hoffech weld copi caled, cysylltwch â ni.
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy